Sengl Pwer y Fflwer / Lisa, Magic a Porva allan nawr ar label ciwdod!

O Orllewin gwyllt Cymru ger y môr yn Aberystwyth daw'r casgliad pop psychedelic Radio Luxembourg; pumawd sy'n dilyn traddodiad cerddorol Cymraeg y 90au, megis Gorky's Zygotic Mynci, SFA a Murry the hump.
Mae eu enw da drwy fod yn fand byw cyfforus a'u alawon cofiadwy yn cynhyrchu cyffro a buzz o amgylch Cymru, gan ennill clod y cyfryngau Cymreig.
Mae'r band ar y teledu a'r tonnau radio yn aml, ac maent ar fin gweud llawer mwy o waith stiwdio a gigio ar raddfa fawr.
Efo ehangiad cynddol eu fan base a chyfryngau brwdfrygig mae'r bechgyn yn torri trwy'r gorwel, felly gwisgwch eich sbectol 3D a paciwch gwres.
Dangosa eu sengl cyntaf Pwer y Fflwer / Lisa, Magic a Porva y band mewn dau gân amrywiol. Mae'r cyntaf yn faneg haearn o gân Rock efo'r cur organ Hammond ag ongl electronic iddi, a'r ail gân yn pop quirkey hafaidd.
Cynhyrchwyd y sengl gan Euros Childs (Gorky's Zygotic Mynci), a pheiriannwyd gan David Wrench sydd wedi gweithio efo bandiau niferus o'r Coral i Ectogam a Zabrinski.
I brynu copi o'r sengl newydd, ewch i Wefan Sebon.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r band, cysylltwch drwy ebostio:
info <at> radiolux [dot] org (dot) uk